Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 11 Hydref 2016
Amser: 08.30 -
09.09
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AC (Cadeirydd) Jane Hutt AC Rhun ap Iorwerth AC Paul Davies AC David J Rowlands AC |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AC, Y Dirprwy Lywydd Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Christopher Warner, Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Cytunodd y Pwyllgor ar y cofnodion i’w cyhoeddi.
Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant yn gwneud datganiad am Gymunedau Cryf.
Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn gwneud datganiad am yr Arllwysiad Olew yn Nantycaws, Caerfyrddin fel yr eitem olaf o fusnes cyn amser pleidleisio.
Byddai’r Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth yn digwydd ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y byddai’r Cyfnod Pleidleisio yn cael ei gynnal cyn y Ddadl Fer ddydd Mercher.
Nododd y Pwyllgor Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i aildrefnu’r eitemau a ganlyn:
Dydd Mercher 19 Hydref 2016 -
·
Amser a neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas
Unedig (60 munud) -
wedi symud i 2 Tachwedd.
Dydd Mercher 2 Tachwedd 2016 -
·
Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (120 60 munud)
– 1 awr wedi symud i 9 Tachwedd
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 19 Hydref 2016 -
· Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar Flaenraglen Waith y Pwyllgor gan gynnwys Ffoaduriaid, Ceiswyr Lloches a Phlant ar eu Pen eu Hunain (30 munud)
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ynghylch Bil Cymru Llywodraeth y DU (60 munud)
Dydd Mercher 2 Tachwedd 2016 -
· Amser a neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (60 munud)
Dydd Mercher 9 Tachwedd 2016 -
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (120 munud)
· Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gynnwys dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ynghylch Bil Cymru Llywodraeth y DU ar yr amserlen.
Yn seiliedig ar wybodaeth a ddarparwyd gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y bydd Bil Cymru yn destun cynnig cydsyniad deddfwriaethol a dadl maes o law, cytunodd y Rheolwyr Busnes na ddylid cyflwyno dim gwelliannau i’r cynnig tynnu sylw.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor i gyfeirio’r Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) at y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar gyfer ei ystyried yng Nghyfnod 1.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ohirio’r penderfyniad ar amserlen y Bil tan gyfarfod yn y dyfodol, i roi amser i ymgynghori â’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon.
Ystyriodd y Rheolwyr Busnes y canllawiau drafft sydd i’w dosbarthu i Aelodau cyn cyflwyno ‘datganiadau 90 eiliad’, a chytunwyd i ddosbarthu’r canllawiau i Aelodau yn amodol ar wneud rhai newidiadau.
Cytunodd y Pwyllgor i gynnwys y cyntaf o’r datganiadau hyn ar yr amserlen ddydd Mercher 2 Tachwedd.
Ystyriodd y Rheolwyr Busnes bapur a oedd yn crynhoi’r diwygiadau a wnaed yn ystod y Pedwerydd Cynulliad a’r argymhellion a wnaed gan y pwyllgor a oedd yn ei ragflaenu ar gynnal Adolygiad o Gwestiynau Llafar y Cynulliad, ochr yn ochr â phapur ar gyflwyno Cwestiynau Amserol.
Gofynnodd y Rheolwyr Busnes i’r Clerc weithio gyda swyddogion y Llywodraeth i gael eglurhad o ran ffigurau cymharol â deddfwrfeydd eraill, ac i bapur diwygiedig gael ei gyflwyno gerbron y Pwyllgor yng nghanol mis Tachwedd.